Real stories
Holi ac Ateb: Annie Dow, sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer cynnar
Dyma Annie yn Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru, oed 56 ac sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer cynnar, yn ateb ein cwestiynau.
Darllenwch y stori hon yn Saesneg
Beth sydd wedi newid fwyaf ers eich diagnosis?
Ffrindiau – dydw i ddim yn eu gweld nhw’n aml iawn. Rwy’n meddwl eu bod nhw’n meddwl fy mod yn mynd i gwympo’n ddarnau bob tro mae rhywun yn siarad â mi.
Nid bod yn greulon maen nhw, rwy’n credu eu bod nhw jyst yn poeni byddan nhw’n dweud rhywbeth o’i le. Mae’n drueni oherwydd rydyn ni’n mynd yn unig ac rydyn ni eisiau bod allan yn y gymuned yn yr un modd ag erioed.
Mae angen ychydig o gymorth arnom ni, ond dydw i ddim yn credu bod digon o sôn bod modd cael bywyd os oes gennych chi ddementia.

Beth fyddech chi’n ei gymryd i’ch ynys anghyfannedd?
Llyfr gan Bernard Cornwell oherwydd ei fod yn wych – a fy chwaer. Mae Bernard Cornwell yn ysgrifennu ffuglen ond mae wedi’i seilio ar hanes, felly rydw i’n dysgu wrth ddarllen.
Yna fan hufen iâ ar y traeth er mwyn i mi allu cael Whippy.
Sut mae Alzheimer’s Society Cymru wedi’ch helpu chi?
Rydych chi wedi fy helpu’n fawr, yn arbennig fy Nghynghorydd Dementia. Roedd yn braf cael rhywun i siarad â nhw ar y dechrau – cael llais pan oeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n gwybod beth oedd yn digwydd.
Rhoddodd yr hyder i mi fynd drwy fy nhaith dementia.
Pa gân neu dôn sy’n crynhoi eich bywyd hyd yn hyn?
You’ve Got a Friend in Me gan Randy Newman. Rwyf wedi cael rhai ffrindiau gwych, ac rwy’n ceisio helpu’r bobl ychydig ymhellach ymlaen ar eu teithiau dementia cymaint ag y gallaf.
Pa un peth fyddai’n gwella ansawdd eich bywyd?
Symud allan o’r tŷ yma. Mae’n enfawr gyda gardd anferth sydd wedi mynd braidd o chwith nawr. Des i yma gan feddwl, ‘O ie, dwi’n gallu gwneud hwn,’ a nawr dwi’n methu.
Pe bawn i’n symud, byddwn yn aros yn yr un ardal oherwydd ni fyddwn am ddechrau eto gyda gweithwyr cymorth newydd.
Pe gallech chi fynd yn ôl mewn amser, ble fyddech chi’n mynd?
Byddwn yn mynd yn ôl i pan oeddwn tua phum mlwydd oed ac roedd fy chwaer a minnau yn gwneud gwersi marchogaeth. Rwy’n cofio Brownie, y ceffyl cyntaf i mi ddysgu ei farchogaeth, a mam a dad yno.
Wrth gwrs, roedd yna bobl eraill o gwmpas, ond dwi ddim yn eu gweld nhw – dwi’n gweld fy nheulu’n cael amser da. Mae hwnnw’n atgof gwerthfawr.
Beth yn eich meddiant rydych yn ei drysori mwyaf?
Rhoddodd mam dlws gwydr glas i mi ac mae rhigwm arno am y berthynas rhwng mam a merch. Mae’n bersonol ac yn werthfawr iawn i mi.
Atebwch ein cwestiynau
Os oes gennych chi ddementia ac yr hoffech ateb ein cwestiynau ar gyfer erthygl yn y dyfodol, neu os ydych yn adnabod rhywun fyddai’n hoffi gwneud, rhowch wybod i ni drwy e-bost ar [email protected]